Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

 

Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

 

 

 

Dyddiad:

Dydd Llun, 22 Medi 2014

 

 

 

Amser:

13.30 - 16.54

 

 

 

Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://www.senedd.tv/Meeting/Archive/2272f82e-3818-469a-9991-09e180641a0a?autostart=True

 

 

Cofnodion Cryno:

 

 

 

Aelodau’r Cynulliad:

 

Darren Millar AC (Cadeirydd)

Jocelyn Davies AC

William Graham AC

Mike Hedges AC

Julie Morgan AC

Jenny Rathbone AC

Aled Roberts AC

Sandy Mewies AC

 

 

 

 

 

Tystion:

 

Syr Derek Jones, Permanent Secretary, Welsh Government

Gawain Evans, Llywodraeth Cymru

Lynne Hamilton, Finance and Commercial, Welsh Government

Michael Hearty, Director General for Strategic Planning, Finance & Performance

 

 

 

 

 

Staff y Pwyllgor:

 

Michael Kay (Clerc)

Meriel Singleton (Ail Clerc)

Claire Griffiths (Dirprwy Glerc)

Richard Bettley

Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

 

 

<AI1>

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.

</AI1>

<AI2>

1    Cyflogau Uwch-reolwyr: Trafod yr adroddiad drafft

1.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ac awgrymodd nifer o newidiadau. Bydd fersiwn ddiwygiedig yn cael ei pharatoi i'r Pwyllgor ei hystyried ar 13 Hydref.

 

</AI2>

<AI3>

2    Cyfrifon Cyfunol Blynyddol Llywodraeth Cymru 2013 - 2014

2.1 Trafododd yr Aelodau gynnwys y briff ymchwil cyn y sesiwn graffu a gynhelir gyda'r Ysgrifennydd Parhaol ar Gyfrifon Cyfunol Blynyddol Llywodraeth Cymru 2013-14.

 

</AI3>

<AI4>

3    Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

3.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r Pwyllgor.

3.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Alun Ffred Jones. Roedd Jocelyn Davies yn dirprwyo ar ei ran.

3.3 Dywedodd Jocelyn Davies fod Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio wedi'i chynnwys yn ei phortffolio pan yr oedd hi'n Weinidog.

 

</AI4>

<AI5>

4    Cyfrifon Cyfunol Blynyddol Llywodraeth Cymru 2013 - 2014

4.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith Syr Derek Jones, Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru, a'i swyddogion mewn perthynas â Chyfrifon Cyfunol Blynyddol Llywodraeth Cymru 2013 – 2014.

4.2 Cytunodd yr Ysgrifennydd Parhaol:

·         i anfon manylion ynghylch y pecynnau ymadael a ddyfarnwyd a'r arbedion cysylltiedig mewn costau cyflog, ac i roi dadansoddiad o'r cynnydd a welwyd yn niferoedd staff y sefydliad

·         i roi eglurhad o'r ddarpariaeth ar gyfer cronfa risg Cymru

·         i egluro'r gostyngiad a welwyd yn nefnydd ynni adnewyddadwy a'r cynydd a welwyd yn nefnydd ynni anadnewyddadwy ar ystâd Llywodraeth Cymru

·         i ddarparu dadansoddiad o'r gwariant a wnaed ar deithio busnes swyddogol yn 2012-13 a 2013-14, o lwfansau ymrwymiad lleihau carbon, ac o wariant ar ynni yn 2013-14

·         i ddarparu dadansoddiad o'r gwariant wnaed ar deithio, cynhaliaeth a lletygarwch yn 2013-14

·         i roi eglurhad manwl o'r goblygiadau sydd ynghlwm â methiant Llywodraeth Cymru i sicrhau £25.6 miliwn ar ffurf darpariaeth nad yw'n arian parod. Yn dilyn trafodaeth gyda'r Ysgrifennydd Barhaol, cytunodd yr Aelodau eu bod yn dymuno gweld yr adroddiad a luniwyd ar y gwersi a ddysgwyd yn dilyn y digwyddiad hwn.

 

</AI5>

<AI6>

5    Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

</AI6>

<AI7>

6    Cyfrifon Cyfunol Blynyddol Llywodraeth Cymru 2013 - 2014

6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd, gan gytuno i edrych eto ar y mater hwn ar ôl cael y wybodaeth ychwanegol gan yr Ysgrifennydd Parhaol.

 

</AI7>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>